Y
dechrau 1971
Cyd-ddigwyddiad
ddaeth ag aelodau Hergest at ei gilydd: yn wahanol i’r rhan fwya
o grwpiau, do’n nhw ddim yn ffrindiau ysgol neu goleg, wnaeth
neb ymateb i hysbyseb papur newydd; yn hytrach, cael eu hunain yn
yr un lle ar yr un pryd y gwnaethon nhw – Gwersyll yr Urdd yng
Nglan-llyn ger y Bala – yn ystod haf 1971.
|
Y
pedwar gwreiddiol oedd Elgan Ffylip o Aberystwyth, Geraint Davies
o Abertawe, Derec Brown o Gaerfyrddin
a Delwyn (Sion) Davies o Aberdar. Roedd Elgan a Geraint
wedi cwrdd o’r blaen ac wedi canu ambell gan gyda’i gilydd,
roedd Delwyn wedi creu argraff wrth gystadlu yng nghystadleuaeth
can bop Eisteddfod yr Urdd Abertawe ’71, roedd Geraint newydd
recordio EP gyda’i grŵp, Gwenwyn, a roedd gan Derec hefyd
ei grŵp, Galwad y Mynydd oedd yn gwneud ei farc yntau.
Ond
sylweddolodd y pedwar yn fuan fod rhywbeth arbennig yn digwydd
wrthyn nhw sgwrsio, cyfnewid syniadau a chyd-ganu caneuon ei
gilydd, ynghyd a rhai pobol eraill o Dafydd Iwan a Meic Stevens i
grwpiau Americanaidd fel Crosby, Stills, Nash & Young, yr
arwyr mawr i’r pedwar ohonyn nhw. Yn ôl Geraint, aeth ei sgwrs
gyntaf fe a Derec rywbeth yn debyg i hyn: |
 |
Geraint
"Pwy yw dy hoff grwpiau di te?",
Derec
"O, fyddet ti ddim wedi clywed amdanyn nhw, pobol
‘obscure’ fel y Lovin’ Spoonful a Buffalo
Springfield"
Geraint
(gwenu fel gat) "Wel..."
|
Erbyn
diwedd yr wythnos, roedd na ysfa gyffredinol i ddechrau grŵp
ar y cyd, oedd yn codi nifer o broblemau. Roedd Geraint yn mynd
i’r Brifysgol yn Aberystwyth fis Medi, a roedd Elgan eisoes yn
gweithio yno, ond roedd Derec a Delwyn a blwyddyn yr un ar ôl yn
yr ysgol. Mewn cyfnod cyn y we a ffonau symudol, fe fyddai cadw
mewn cysylltiad o gwbwl yn ddigon o broblem, heb sôn am drio dod
at ei gilydd i ymarfer neu berfformio. |
 |
Paratoi
1971-2
Ond
rhywsut, fe lwyddon nhw i gadw pethau i fynd – dros y flwyddyn
nesa, ar ben llythyru cyson, buodd pawb yn weithgar: rhyddhawyd
record gyntaf Geraint gyda Gwenwyn ar label Recordiau’r
Dryw a dilynodd ail EP gyda Delwyn a Derec a Galwad y
Mynydd yn cynorthwyo. Aeth Galwad hefyd i mewn i stiwdio’r Dryw
a chyhoeddi dwy record EP, eto gyda Geraint a Delwyn yn y cefndir,
a buodd Elgan a Geraint a’r gitarydd Russ Morris yn canu yn
Aberystwyth, dan yr enw Hergest. Yn ysgol Rhydfelen, roedd Delwyn
wedi ffurfio grŵp o’r enw Madog. Ac os byddai gig gan rywun
yn ddigon agos i un o’r lleill gyrraedd, fe fyddai na aduniad. O
ie, a chafodd rhywfaint o waith academaidd ei wneud yn
Aberystwyth, Aberdar a Chaerfyrddin.
Enwyd
Hergest ar ôl llawysgrifau hynafol enwog Llyfr Coch Hergest –
Elgan gath y syniad, ac yntau’n gweithio yn llyfrgell y coleg yn
Aber. Gyda bob grŵp arall yn ‘Y’ neu ‘Yr’ rhywbeth,
roedd hyn yn ymgais i fod yn wahanol (er hynny, yn aml fel ‘Yr
Hergest’ y byddai rhai’n cyflwyno’r grŵp – a wel!)
Yn
Chwefror 1972, daeth Elgan, Geraint a Derec at ei gilydd i
recordio tap demo i gwmni Sain, oedd eisoes wedi dangos diddordeb
yn Delwyn, a chynigiwyd record EP i Hergest. Yn Eisteddfod
Hwlffordd ym mis Awst, bu’r pedwar yn perfformio mewn
nosweithiau ac yn sesiwn y cylchgrawn ‘Swn’, ac yna ar daith
ledled Cymru fel rhan o daith ymgyrchu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
gyda pherfformwyr fel Dafydd Iwan a’r grŵp Ac Eraill.
Erbyn
Hydref 1972, roedd y grŵp wedi dechrau denu sylw, roedd
gan Derec flwyddyn arall yn yr ysgol, ond doedd Caerfyrddin ddim
mor bell a hynny)
COPA |
Y
record gyntaf 1973
Swn
acwstig oedd i’r Hergest cynnar, pedwar llais a phedair gitâr
(gyda Delwyn yn symud i’r piano yn achlysurol – os oedd un ar
gael, a mewn tiwn). Ond ar gyfer y record gyntaf, roedd angen mwy
o offerynnau cefndir – bas a drymiau’n arbennig. Roedd Delwyn
yn awyddus i ddefnyddio Charlie Britton o Madog ar y drymiau, a
roedd e hefyd yn adnabod chwaraewr bas , John Griffiths o
Bontrhydyfen. Wedi tipyn o drafod gyda
Sain, oedd wedi bod yn
defnyddio cerddorion proffesiynol, cytunodd y cwmni a recordiwyd
pedair can yn stiwdio enwog Rockfield , un yr un gan y pedwar
aelod.
Roedd
John Griffiths hefyd newydd ymuno a grŵp newydd Hefin Elis a
Dewi Pws Morris, Edward H Dafis, oedd hefyd yn chwilio am drymiwr,
a datblygodd John a Charlie bartneriaeth ar gyfer y grŵp
arloesol hwnnw a dwsinau o recordiau gan bobol eraill hefyd. Ond
ar record Hergest y chwaraeon nhw gyda’i gilydd am y tro cyntaf.
Dilynodd
nifer o berfformiadau teledu a llwyfan (nosweithiau llawen ran
fwyaf – doedd y chwyldro roc ddim wedi digwydd yn y Gymraeg eto)
- un o uchafbwyntiau haf 1973 oedd cyngerdd Tafodau Tan a
recordiwyd ar gyfer record hir.
Yn
Hydref 1973, symudodd Geraint a Delwyn i’r Borth ger
Aberystwyth, i fflat ‘Glanceri’ fyddai’n gartref i’r band
am y blynyddoedd nesaf ac aeth Derec i’r coleg Normal ym Mangor – cryn bellter o
Aberystwyth – gan danlinellu’r bwlch rhwng triawd Aber a’r
boi arall. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd Derec wedi gadael y grŵp
a ffurfio Cwrwgl Sam.
|

|
COPA |
Newid
cyfeiriad 1974-5
Penderfynwyd
cario mlaen fel triawd, ond yna cododd enw Arfon Wyn oedd
newydd adael ei grŵp Yr Atgyfodiad, grŵp roc
Cristnogol. Erbyn hyn, roedd Delwyn ac Elgan wedi profi tröedigaeth
Cristnogol a, fel Arfon, yn aelodau o’r Mudiad Efengylaidd. Yn
gerddorol, roedd gan Arfon dipyn i’w gynnig – gitarydd acwstig
a thrydan, canwr a chyfansoddwr – a chytunodd Geraint a’r
lleill y byddai’n gaffaeliad i Hergest. Ond
fel triawd y recordiwyd ail EP’r grŵp yn Rockfield
– Aros Pryd – gydag un gan yr un gan y tri ac un,
‘Blodeuwedd’, ‘pastiche’ o ganeuon pop dechrau’r 60au ,
ar y cyd. Eto, roedd John a Charlie’n gerddorion cefndir a
chwaraeodd Derec ac Arfon ar drac yr un.
Yn
ystod yr haf, ynghyd a Heather Jones, Cleif Harpwood, y grwpiau
Edward H Dafis, Ac Eraill a Sidan a
Geraint Griffiths ar y gitâr,
bu’r tri’n ran o sioe lwyfan Nia Ben Aur, yr opera roc
Cymraeg gyntaf, berfformiwyd
ddwywaith – un ar nos
Fercher Eisteddfod Caerfyrddin (gyda phroblemau technegol enfawr)
ac eto deng
mlynedd ar hugain yn ddiweddarach yng Ngwyl y Faenol
2004, gyda’r cast bron yn union run peth (darllenwch mlaen!).

|
Ymunodd
Arfon a Hergest yr un wythnos, ond er iddo fe helpu i symud y grŵp
i gyfeiriadau cerddorol newydd a diddorol
doedd y cytgord personol ddim cystal, yn benodol rhyngddo
fe a Geraint. Recordiodd Arfon a Delwyn fel Cyfeillion Crist, a
dechreuodd y ddau sôn am ddechrau grŵp newydd. Ond yn
gyntaf, nol a Hergest i’r stiwdio – stiwdio newydd sbon 8 trac
Sain ar glos ffarm Gwernafalau ger Caernarfon – i recordio’i
record hir gyntaf. Newydd agor oedd y stiwdio a chafwyd nifer o
broblemau ond llwyddwyd i recordio casgliad diddorol o ganeuon gan
gynnwys Niwl ar fryniau Dyfed a Glanceri, gyda chymorth arferol
John a Charlie a’r gitarydd o Nia Ben Aur, Geraint Griffiths.
Erbyn
cyhoeddi Glanceri, roedd Arfon Wyn wedi gadael a Hergest yn driawd
unwaith eto, a gyda John Griffiths ar y bas, recordiwyd dwy gan ar
gyfer record aml-gyfrannog Lleisiau i fudiad Adfer. Ond erbyn
diwedd 1975, roedd y pedwar gwreiddiol nol gyda’i gilydd wrth i
Derec ail-ymuno.
COPA |
Llwyddiant
1976-79
Newidiodd
y sŵn eto, gyda mwy o harmoni ac ychwanegiad piano trydan a
mandolin i’r sŵn byw – a daeth yr elfennau i gyd at ei
gilydd i greu sŵn unigryw Hergest. Yng nghanol haf crasboeth
1976, recordiodd
Hergest ei record hir orau o bosibl, sef Ffrindiau Bore Oes, gyda
Harbwr Aberteifi, Ugain Mlynedd yn Ol, Dinas Dinlle ac eraill.
Yn yr hydref, recordiodd Delwyn Sion ei record unigol
gyntaf gyda chymorth...ie, Geraint Griffiths, John, Charlie,
Geraint, Elgan a Derec.

Dilynodd
rhagor o newidiadau – ym mis Rhagfyr, penderfynodd Elgan ymddeol
o ganu ac yn y flwyddyn newydd edrychwyd o ddifri ar ychwanegu
drymiau a bas parhaol. Y dewis amlwg oedd Charlie a John, gydag
Edward H Dafis wedi dod i ben, ond o ludw Edward H daeth ffenics
Injaroc, gyda’r ddau’n ran allweddol.
Yn
y diwedd, denwyd Rhys Dyrfal Ifans (bas a llais) a Gareth Thomas
(drymiau a llais), aelodau o’r grwpiau cyfochrog Josgin (gwerin)
a Madog (roc – dim perthynas a grŵp ysgol Delwyn). Gyda
chyfyngiadau systemau sain y cyfnod yn eu gwneud hi’n anodd
clywed offerynnau acwstig uwchben drymiau a bas, a gyda thwf
dawnsfeydd ar draul cyngherddau, trowyd yn fwyfwy at gitarau
trydan gan newid sŵn y grŵp ar lwyfan yn sylfaenol.
Yn
y stiwdio, roedd hi’n haws cadw’r ddysgl yn wastad. Yn ystod
haf ’77 recordiwyd y record hir Hirddydd Haf gyda’r ffefryn
llwyfan Tyrd i Ddawnsio, Ffair Llandeilo a Plentyn y Pridd. Yn
Eisteddfod Wrecsam, perfformiodd y grŵp yn ei stadiwm gyntaf
– y Parc Ras – a derbyn cymeradwyaeth anhygoel. Hwn, mae’n
siŵr, oedd yr uchafbwynt ‘byw’.
Wrth
gwrs, dim ond un ffordd sydd na i fynd wedyn. Dros y gaeaf,
dechreuodd pethau ddadfeilio – aelodau unigol eisiau gwneud
rhywbeth gwahanol, y teimlad fod perygl ailadrodd, pawb ar chwâl
yn ddaearyddol, swyddi pob dydd, teuluoedd - y tensiynau creadigol arferol. Cytunodd
y pump i orffen gydag un ymdrech olaf – y record hir Amser Cau,
eto yng Ngwernafalau. Yn fuan wedi cyhoeddi hon – a roedd y
teitl yn ddigon awgrymog – cyhoeddwyd y byddai’r band yn
chwarae am y tro olaf ym mis Ionawr 1979.
Yno,
ynghanol yr eira, y daeth y daith i ben, mewn dathliad o bob
cyfnod – gydag Elgan, Arfon, Charlie a John yn ymuno a Geraint,
Delwyn, Derec, Rhys a Gareth ar y llwyfan.
COPA |
Ac
yna.......
Ond
dyw’r stori ddim yn gorffen yn fan’na. Aeth pawb yn eu blaenau i
ffurfio grwpiau newydd, ond arhosodd y cylch yn un tynn. Ymunodd
Rhys a Gareth a’r grŵp disco Bando a phrofi llwyddiant mawr.
Sefydlodd Delwyn y grŵp roc Omega cyn dilyn gyrfa unigol. Bu
Geraint yn aelod am gyfnod byr cyn sefydlu Y Newyddion gyda Derec,
cyn i hwnnw ddilyn ei gwys ei hunan fel unigolyn a gyda Derec Brown
a’r Racaracwyr. Wedyn ymaelododd Geraint a’r grŵp gwerin
Mynediad am Ddim
ac erbyn canol yr wythdegau, roedd Rhys wedi ymuno
ag e. Profodd
y cyn-aelodau eraill lwyddiant pellach hefyd,
Arfon
gyda’i grwpiau Pererin a’r Moniars, ac Elgan fel awdur
toreithiog a phoblogaidd ym maes llyfrau plant ac oedolion.
A
buodd sawl aduniad dros y blynyddoedd, gyda bwrlwm arbennig yn
nechrau’r 90au, pan ddaeth nifer o grwpiau’r 70au at ei gilydd
ar gyfer cyngerdd recordiwyd gan gwmni teledu HTV yn mhafiliwn
Corwen. Yn eu mysg roedd Hergest – yr aelodau gwreiddiol gyda
John, Charlie a’i cyn-gynhyrchydd Hefin Elis. Yn fuan wedyn,
cyhoeddwyd CD o oreuon y grŵp a threfnwyd taith fer
i’w hybu hi (Geraint, Delwyn, Derec, Elgan, John a Graham Land ar
y drymiau). Daeth y grŵp ‘trydanol’ nol unwaith hefyd –
ym 1996 – ar y posteri roedd y geiriau ‘cyfle ola’ i weld’
– eto!
Ac
yn 2004 – yr un flwyddyn ag ail-lwyfannu Nia Ben Aur –
derbyniodd y grŵp (Geraint, Delwyn, Derec, Elgan, John,
Charlie, Geraint Cynan ar yr allweddellau ac Ian Lawrence ar gitâr,
gitâr ddur a mandolin) wahoddiad Bryn Terfel i berfformio yn noson
Tan Y Ddraig yng Ngwyl y Faenol. Unwaith eto cafodd ganeuon Hergest
lwyfan. – a derbyniad mor frwdfrydig ag erioed.
Am y tro ola’ ???????????
COPA |
| ADREF
| ebost |
cysylltiadau
|
© twndish 2006
|