
Hergest - Grŵp yr
haf, grwp arfodir y Gorllewin (Ceredigion), grwp gitarau acwstig a
harmoni – trwy gydol y 70au, cyfnod hynod o gyffrous ac arloesol
yn y byd canu roc Cymraeg, roedd Hergest yn un o’r grwpiau mwya
poblogaidd ar lwyfan ac ar record. Yn y stiwdio, cynhyrchwyd dwy E.P. a phedair record hir – a mae caneuon fel ‘Niwl
ar fryniau Dyfed’, ‘Harbwr Aberteifi’ ac ‘Ugain Mlynedd yn
Ol’ yn dal yn fyw heddi’.
Mae’r
aelodau unigol yn parhau i greu a pherfformio cerddoriaeth newydd,
yn dal yn ‘ffrindiau bore oes’ a dros y chwarter canrif ers
i’r grwp roi’r gorau i berfformio gyda’i gilydd, mae yna sawl
aduniad wedi bod, felly pwy sydd i ddweud fod y stori ar ben?
Yma
yng Nglanceri mae cartre’r grwp - ei hanes, ei gerddoriaeth
a’i ysbryd -
a’r unigolion fuodd yn ran ohono fe.
Dewch mewn – mae’r dwr yn gynnes braf.
<><><> |
|
|